Cymraeg

 Fe’m ganwyd a’m magwyd yng nghefn  gwlad Ceredigion, a Chymraeg oedd iaith yr aelwyd.

Rwyf yn briod ers dros ddeugain mlynedd ac mae gennym ni ddau fab a thri ŵyr annwyl iawn.
 
Ar ôl gyrfa  deng mlynedd ar hugain ym maes ymchwil ac addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, ymunais â’r WDA/Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo menter technegol ac arloesedd, gan arbenigo mewn datblygu nwyddau newydd ac eiddo deallusol ynghyd â datblygu busnes.
 
Rwyf wedi teithio ledled y byd ac wedi mynychu arddangosfeydd masnachol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Rwyf wedi ymddangos droeon ar y radio a’r teledu, ac wedi cynorthwyo unigolion a chwmniau bach i ddatblygu syniadau a chynnyrch newydd. Rwyf yn frwd iawn dros hyrwyddo menter, masnach a diwylliant Cymru.
 
Wedi ymddeol o’r Llywodraeth dechreuais gwmni newydd “Naws yr Achlysur” gan weithredu fel tostfeistr, cyflwynydd a hysbysebydd. 
 
Rwyf yn falch iawn o fod yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Tostfeistri a fi yw’r unig aelod yng Nghymru ac un sydd yn gallu gweithredu trwy’r Gymraeg.
 
Er mwyn cymhwyso fel Aelod Cydymaith Cymdeithas Cenedlaethol Tostfeistri,  rhaid wrth hyfforddiant o’r safon uchaf gan fodloni’r Llywydd a’r bwrdd arholi, trwy arholiad ysgrifenedig, cyflwyno areithiau a phrofi safon angenrheidiol o uchel o wybodaeth, profiad sylweddol  a medr eithriadol.
 
Rwyf yn gyfforddus yn gweithredu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, mewn digwyddiadau pwysig dinesig /cenedlaethol, neu  mewn digwyddiadau elusennol  a chymunedol . Byddaf wrth fy modd o fod o wasanaeth gan ychwanegu “Naws yr Achlysur “ i’ch digwyddiad.
 
Peidiwch â becso. Cysylltwch â fi yn rhad ac am ddim am unrhyw gyngor neu gymorth , neu er mwyn cael dyfyniad heb ymrwymiad.